Y System Draenio Hanesyddol

IMG_4346.jpg

Mae system draenio gadarn, cymhleth a chywrain Gwastadeddau Gwent yn ysbrydoledig. Mae cawodydd o law a dyfroedd ffo o'r ucheldiroedd wedi creu a rheoli'r system ddraenio hynafol sy'n cynnal y tirlun gwlyb yma. Mae system gymhleth o sianeli sy'n gweithio bron yn gyfan gwbl o dan ddisgyrchiant yn cludo dŵr oddi ar wyneb y caeau trwy rwydwaith o ffosydd bas a elwir yn afaelion maes (field grips), i ffosydd maes ac wedyn i rewynau (reens) cysylltiedig sy'n amgylchynu pob cae a phrif afonydd . Yna caiff y dŵr hwn ei ryddhau yn ysbeidiol mewn i aber Afon Hafren trwy gilfachau llanw o'r enw 'pills' trwy fflapiau llanw a elwir yn 'gouts'.

Mae'r system ddraenio gyfan y Gwastadeddau yn dibynnu ar y morglawdd. Yn hanesyddol mae'r clawdd wedi cilio, gyda llawer o'i linell bresennol yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol. Yn mesur tua 35km, mae'n glytwaith o wahanol ddarnau o ran arddull a dyddiad, a chafodd ei ddiwygio a'i addasu dros amser yn gyson rhwng 1954 a 1974. Fodd bynnag, yn dilyn storm arw yn 1990 pan brofwyd yr amddiffynfeydd môr hyn i'r eithafol, dechreuwyd rhaglen 10 mlynedd i godi a chryfhau'r clawdd.

IMG_9795.jpg

IMG_6593.jpg

Yr haen gyntaf yn y graddau o sianelau draenio sy'n rhannu Gwastadeddau Gwent yw'r afonydd tua 64km o’r prif rewynau lle mae nentydd yr ucheldir wedi troi’n gamlesi i lifo ar draws y gwastadeddau isel ac allan trwy system fflap llanw (gout) i'r môr. Mae rhai o'r prif rewynau yma, megis Monksditch a Ffos Mill, yn llifo rhwng llethrau uchel lle y gwaredir y gwastraff a gliriwyd o'r ffosydd yn achlysurol. Mewn mannau fel Monksditch ger is-orsaf Whitson a phen gogleddol Blackwall ym Magwyr, mae gan ochrau’r rhewynau wynebau o gerrig a phren.

Yr haen nesaf yn y graddau o sianeli draenio yw'r rhewynau llai o faint - tua 137km. Rheolir lefelau dŵr yn y rhewynau yma gan argaeau a elwir yn "stanks", lle gellir gosod ‘styllen bren i godi lefelau dŵr yn yr haf a'u gostwng yn y gaeaf.

Nodwedd bwysig arall yw'r "waliau", sy’n ymddangos eu bod yn llethrau isel yn esgyn i fyny neu eu hochrau tuag at y môr o'r rhewynau hynny, a gloddiwyd i ddraenio'r gors. Roeddent yn darparu amddiffyniad ychwanegol rhag llifogydd y gaeaf i'r tir gwell y tu cefn. Nodwedd arall o'r rhewynau hyn yw rhes o helyg wedi'u tocio a gafodd eu plannu er mwyn cryfhau ochrau’r llethrau.


Heb os, yr haen fwyaf yn y graddau ddraenio yw'r ffosydd maes, tua 1200km, a gynhelir gan dirfeddianwyr unigol. Yma, gall y broses o glirio’r ffosydd a rheoli'r gwrychoedd gerllaw ymestyn dros gyfnod o 10 i 30 mlynedd.

Yn draddodiadol, byddai'r ffosydd wedi cael eu cadw'n agored gydag ambell helygen wedi ei docio i helpu cynnal y llethrau ond nid y gwrychoedd, a'r ffosydd yn cael eu defnyddio fel ffensys gwlyb i gadw'r stoc oddi mewn. Er enghraifft, yn fewn y corsydd yn y tir isaf, safai cyrs a helyg ynysig sy’n nodweddiadol o’r caeau hyn.

Yr haen isaf o'r graddau ddraenio yw cefnen a rhych neu afaelion. Wedi'u creu'n fedrus trwy gloddio neu aredig â llaw, mae'r cloddiau bach hyn yn darparu system o gwteri draenio bas sy'n cludo dŵr oddi ar y cae i mewn i ffosydd a rhewynau. Nid ydynt yn goroesi mewn caeau sydd wedi eu troi neu ddraenio’n ormodol, arferiad a ddechreuodd o ddiwedd y 1950au ar ôl gwella'r system ddraenio.

IMG_2804.JPG