Y Llifogydd Mawr, 1607

Ar 30 Ionawr 1607, cafodd morgloddiau y naill ochr i Aber Afon Hafren eu boddi gan ddŵr llifogydd.

Roedd cryn dipyn o Wastadeddau Gwent a Gwlad yr Haf dan ddŵr, gan ladd tua 2,000 o bobl a llawer o anifeiliaid. Cyrhaeddodd y llifddwr ddyfnder o 10 troedfedd mewn rhai ardaloedd, a lledaenu hyd at 14 milltir i ganol y tir. Cafodd nifer o ddinasoedd eu heffeithio, gan gynnwys Caerdydd, Bryste a Chaerloyw.

Mae'n debygol y cafodd y llifogydd ei achosi gan gyfuniad o lanw gwanwyn anarferol o uchel, pwysedd isel i'r atmosffer, a achosodd i lefelau môr godi ymhellach, a storm dreisgar.

Cofnodir manylion y digwyddiad mewn pamffledi newyddion cyfoes, 'chapbooks' yn Saesneg. Yn aml, byddai’r pamffledi yn darlunio lluniau dramatig o'r difrod.

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei goffáu gyda phlaciau mewn sawl eglwys ar y Gwastadeddau sy'n dangos uchder y llifddyfroedd. Mae'r plac yn Allteuryn yn cofnodi "Yn y Plwyf hwn collwyd rhyw 5,000 o bunnoedd ar wahân i 22 o bobl". Mae £5000 yn cyfateb i tua £650,000 heddiw. Oherwydd y newid o galendr Iŵl i galendr Gregori yn 1752, mae'r coflechau yn cofnodi'r dyddiad fel 20fed o Ionawr 1606.


... roedd y môr tymhestlog yn symud gan wyntoedd yn gorlifo’i lethrau cyffredin a boddi 26 o blwyfi wrth ymyl ochr yr arfordir yn y sir a enwyd eisoes yn Nhrefynwy.

Roedd llawer o’r rhai a oedd yn gyfoethog yn y bore yn gardotwyr cyn canol dydd ...
— Dyfyniad o bamffled cyfoes