Geirfa Unigryw y ‘Levels Lingo’

Black Rock 2-1.jpg

Mae gan y tirlun ei iaith neu eirfa leol hynod ei hun sydd wedi dwyn y teitl ‘Levels Lingo’. Fe welwn gipolwg trwy’r ‘lingo’ yma ar darddiad y tirlun dros 1800 o flynyddoedd yn ôl a sut mae'n parhau i gael ei reoli heddiw.

Wrth baratoi ar gyfer y prosiect Lefelau Byw, gwnaethpwyd arolwg gan yr Hanesydd ac Archeolegydd Rick Turner a fu’n ymchwilio casgliadau archifau lleol a chenedlaethol sy’n gysylltiedig â Lefelau Gwent. Am y tro cyntaf, cofnododd Rick eirfa sy'n ceisio diffinio ystyr yr holl eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn Lefelau Gwent yn hanesyddol a phresennol, gydag ychwanegiadau o eiriau sydd hefyd yn cael eu defnyddio yn Swydd Gaerloyw a Lefelau Gwlad yr Haf.

055Tarwickreen.JPG

Dyma rhai enghreifftiau o'r geiriadur ‘gwlyb’ unigryw yma!

Levels Lingo – Gafaelion / Grips

Ffos neu cwys fach neu agored ar gyfer cario’r dŵr o’r neilltu. System o gwteri draenio arwyneb bas yw gafaelion lle mae patrwm hirsgwar o rychau bas yn cael eu bwrw, ac yn arwain y dŵr oddi ar wyneb y caeau i'r pentir ac felly i'r ffos maes sydd gyferbyn.

Levels Lingo – Rhewynau / Reens

Rhewyn yw'r gair lleol ar gyfer y ffosydd gwlyb sy'n croesi'r tirlun yn gris-groes fel gwythiennau. Dyma brif nodwedd y system ddraenio cymhleth a gloddiwyd dros ganrifoedd, a oedd yn cynnwys amrywiaeth cynnil o rannau; o bantiau cyfochrog mawn caeau i rychau arwyneb bas o'r enw ‘gafaelion’ (grips). Ar y Gwastadeddau, roedd cyfrifoldeb y cynnal a chadw blynyddol yn disgyn ar y rhai oedd ar hyd ei lethrau, neu wynebu Llys y Carthffosydd.

Levels Lingo - Pill, Pil neu Pwl

Efallai bod ‘pill’ wedi deillio o’r gair Cymraeg 'pwll'. Yng Ngwastadeddau Gwent, yn wreiddiol golygir holl gwrs y prif afonydd ond mae bellach yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio llanw’r gilfach islaw gowt.

Levels Lingo - Earthing, turfing and heading

Dyma elwir y prosesau i atgyweirio a chodi uchder morglawdd.

Levels Lingo – Gowt / Gout

System fflap llanw syml yw gowt sy'n debyg i'r hyn a ddefnyddiwyd gan y Rhufeiniaid bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl. Mae dŵr croyw o'r ffosydd a'r rhewynau yn mynd trwy'r morglawdd ar lanw isel trwy fflap ac allan i'r môr. Pan ddaw'r llanw i mewn, mae dŵr y môr  yn gwthio yn erbyn y fflap a'i gau. Mae'r dŵr croyw ar ochr arall y clawdd yn cronni dros dro yn y rhewynau nes bod y llanw yn troi ac yn mynd allan. Yna mae pwysau'r dŵr croyw yn gwthio'r fflap yn agored eto ac yn draenio allan i'r môr tan y llanw uchel nesaf.

Daw'r gair "Gout" o'r gair Hen Saesneg "gota", a "gote" o Saesneg Canol, sy'n golygu dyfrffos, sianel, draen neu nant. Gwelir yr un gair yn Goyt, Sir Gaer a Gut mewn gwahanol fannau ym Mhrydain.

Levels Lingo - Noghole, noggor neu noggle

Peg pren mewn planciau yng ngwaelod cilfach dros gowt a ellir ei godi i ganiatáu dŵr i mewn i system rhewyn lleol. Dim ond ar Monksditch y cofnodwyd y strwythurau hyn.

Levels Lingo - Stanks

Pyllau yw ‘stanks’ ond yng Ngwastadeddau Gwent mae'r gair wedi dod i olygu argae dros dro i ddal y dŵr yn ôl. Mae'r enw lleol ar gyfer iâr ddŵr 'stankhen' yn deillio o 'stank'.

Levels Lingo - Crymanu a Sgwrio / Reaping and Scouring

Mae’r dywediad yma yn cyfeirio at y tasgau cynnal a chadw sy’n digwydd dwywaith y flwyddyn, sy’n cynnwys torri lawr y llystyfiant ar lannau’r afonydd a gwared llystyfiant a thameidiau o lanast o’r sianeli.

Levels Lingo - Brinker

Person sy'n berchen ar dir ar un ochr i rewyn, clawdd neu gilfach ac sy'n gyfrifol am y gwaith cynnal a chadw - sy'n deillio o "Brinker", person sy'n byw ar yr ymylon neu'r ffin.

Levels Lingo – Perch

Mae’n gyffredin i ddefnyddio’r term ‘perch’ fel uned o fesur hyd ac arwynebedd ar gyfer rhandiroedd. Fe'i defnyddir yn y Gwastadeddau ar gyfer mesur tir, ffensys a chloddiau, ac er ei fod yn amrywio'n lleol, fe'i safonwyd yn ddiweddarach ar 5½ llath.

Levels Lingo - Putcher neu Putcheon

Basged siâp corn neu dwmffat wedi ei greu yn draddodiadol o wiail collen a helyg wedi ei blethu ar gyfer dal eogiaid a llyswennod yn Afon Hafren ac isafonydd.

Levels Lingo – Neidio Rhewyn / Reen vaulting

Unwaith yn gamp leol boblogaidd gan bobl yng Ngwastadeddau Gwent.