Archaeoleg

IMG_0243.jpg

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae amryw o safleoedd archeolegol ysblennydd wedi cael eu cloddio.

Oherwydd cyfnodau rheolaidd o lifogydd a llifbridd, profwyd fod yna botensial ar gyfer deunydd helaeth, dyfrlawn, wedi’u claddu, yn archeolegol ac amgylcheddol a oedd yn perthyn i'r tirweddau cynharach, ac yn ymestyn y tu hwnt i'r morgloddiau a'r llethrau i'r fflatiau llaid rhynglanwol. Mae'r rhain yn cynnwys olion safleoedd anheddiad Neolithig / Oes yr Efydd, gyda thystiolaeth megis olion traed dynol, darganfyddiadau cerrig, asgwrn anifail wedi'i fwtsiera, llwybrau prysglwyni a thai crwn (er enghraifft yng nghyffiniau Collister Pill). Mae pwysigrwydd cenedlaethol yr ardal rynglanw ar gyfer ei hadnodd archeolegol a hanesyddol unigryw  a chyfoethog yn cael ei gydnabod yn Nhirwedd Gofrestredig Gwastadeddau Gwent o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol yng Nghymru. Mae'r Gwastadeddau felly yn adnodd archeolegol a hanesyddol unigryw a llawn cyfoeth yng Nghymru, ac yn sicr o arwyddocâd rhyngwladol.

Mae gan yr ardal gyfoeth arbennig o archaeoleg o gyfnod Cynhanesyddol a Rhufeinig, yn ogystal ag amrywiaeth o batrymau caeau sy'n amrywio o'r caeau rhannol gyson hynafol i feysydd artiffisial y 18fed ganrif. Mae'r hanes draenio unigryw a’r hanes pwysig o ffermio a chynhyrchu bwyd wedi sicrhau traddodiad a lle i gymunedau heddiw.

Mae olion Oes yr Efydd wedi'i gofnodi mewn gwahanol safleoedd ar welyau mawn dyrchafedig sych, megis yn Chapel Tump. Yn fwy diweddar, y tu allan i'r ardal a ddisgrifir yma, yng Nghastell Cil-y-Coed ceir tystiolaeth fanwl o baleosianeli, adeiladweithiau ar sylfaen o bren, estyll o gwch a llawer iawn o ddeunydd diwylliannol. Darganfuwyd tystiolaeth o'r Oes yr Haearn ardal rynglanw Allteuryn gydag adeiladau hirsgwar pren, llwybrau a maglau pysgod ar silff o fawn cors. Yn Fferm Barland, Chwilgrug, nid nepell o’r ardal, darganfuwyd adeiladau o gerrig a phren o'r Cyfnod Rhufeinig a chafwyd hyd i weddillion llong Frythonaidd-Rufeinig o ddiwedd y drydedd ganrif wrth ymyl cilfach lanw wedi'i chladdu. Gosodai’r canfyddiadau bwyslais ar y cyflwr rhyfeddol y cadwyd deunydd archeolegol o fewn y gwastadeddau ac o’i amgylch.

Cynrychiolir y Canol Oesoedd gan nifer fawr o safleoedd Eingl-Normanaidd gan gynnwys cestyll, safleoedd ffosedig, eglwysi, melinau, maenordai a llysoedd. Ceir tystiolaeth o barhad yn yr arddull o ddefnyddio tir rhwng y cyfnod canoloesol a'r ôl-ganoloesol.

Mae enghreifftiau o nodweddion cynhanesyddol nodedig i'r gogledd o Wastadeddau Gwynllŵg, nid nepell o Dirwedd Hanesyddol Gofrestredig, yn cynnwys siambr gladdu beddrod hir Oes yr Efydd ger Parc Cleppa sydd i’w weld o'r M4; mae Gaer Fort ar ochr orllewinol Dinas Casnewydd, a elwir hefyd yn Gaer Tredegar ac yn lleol ‘The Gollars’, yn hen safle bryngaer y dywedir ei bod o'r Oes yr Haearn; a hefyd maen hir o Oes yr Haearn ar dir preifat yn Michaelstone. Daethpwyd o hyd i olion cwch o'r 13eg ganrif a ddefnyddir ar gyfer masnachu ar draws Aber Afon Hafren, ac efallai gydag Iwerddon, wedi'i gladdu ym mwd yr aber yn agos at Magor Pill. Canfuwyd bod y cwch wedi bod yn cludo mwyn haearn o Forgannwg. Y llongddrylliad yma yw’r darganfyddiad fwyaf o'i gyfnod yn nyfroedd Cymru ac mae'n debyg y mwyaf hyd yma yn Ynysoedd Prydain.

Mae'r tirlun heddiw yn cynrychioli'r cyfnod archeolegol diweddaraf ac ynddi geir y cilfachau ecolegol amrywiol y mae diddordebau cadwraeth natur yn dibynnu arnynt.

IMG_2193.JPG